Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Mehefin 2019
Amser:
09.15 -
11.12
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5509
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Andrew RT Davies AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Dai Lloyd AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Lori Frater, Llywodraeth Cymru Graham Rees, Llywodraeth Cymru Yr Athro Richard Cowell, Prifysgol Caerdydd Dr Mary Dobbs, Prifysgol y Frenhines, Belfast Dr Ludivine Petetin, Prifysgol Caerdydd Dr Victoria Jenkins, Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Katy Orford (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AC.
2.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o eitem 3 y cyfarfod heddiw.
3.1 Cafodd y Pwyllgor friff technegol gan Graham Rees a Lori Frater, Llywodraeth Cymru ar yr ymgynghoriad ar ‘Egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit’.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Richard Cowell, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd; Dr Mary Dobbs, Cyfarwyddwr Rhaglen Cyfraith Meistr, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Queen’s, Belfast; Dr Ludivine Petetin, Darlithydd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd; Dr Victoria Jenkins, Gweithgor Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU Cymru.
5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
6.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 7 ac 8 o’r cyfarfod heddiw.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4.
8.1 Cytunodd yr Aelodau i gynnal digwyddiad yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mercher 24 Gorffennaf.
8.2 Trafododd yr Aelodau gynnwys a fformat arfaethedig y digwyddiad. Bydd cynigion mwy manwl yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor i’w cytuno mewn cyfarfod yn y dyfodol.